Page 12 - Gwyr Prospectus 2023-24
P. 12

Y Cwricwlwm
Crynodeb o Nodau Cwricwlwm yr Ysgol
Ein prif nod yw cynnig cwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol i bob dysgwr yn ein hysgol a hynny yn unol â gweledigaeth Cwricwlwm i Gymru 2022.
• O fis Medi 2022 ymlaen fe fydd Ysgol Gyfun Gŵyr yn cyflwyno Cwricwlwm i Gymru 2022 yn statudol i ddysgwyr Blwyddyn 7 gyda’r bwriad o ehangu’r ddarpariaeth hon, fesul blwyddyn, i flynyddoedd 8 – 11 erbyn y flwyddyn 2026/27
• Cynlluniwn i sicrhau dilyniant a pharhad ar hyd continwwm dysgu ein dysgwyr a hynny yn seiliedig ar ddatblygu ar hyd Camau Cynnydd pob Maes Dysgu a Phrofiad. Ceisiwn gymell pob unigolyn i gyrraedd ei lawn botensial gan roi cyfleoedd hunanwerthuso, myfyrio a gwerthuso rheolaidd er mwyn cynllunio ar gyfer cynnydd pellach
• Mae gan YSGOL GYFUN GŴYR weledigaeth gadarn a diwyro i ddiogelu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau cyffrous, cyfoethog a heriol i’n dysgwyr a hynny ar sail yr addysgu, dysgu ac asesu ar gyfer dysgu gorau ar hyd llwybr addysgiadol eu taith o fewn ein sefydliad
• Ein nod yw cynnal cwricwlwm yn seiliedig ar addysgu a dysgu o ragoriaeth a hynny er mwyn gwireddu’r 4 Diben yn ein dysgwyr a’u datblygu yn:-
• ddysgwyr uchelgeisiol a gweithgar
• unigolion creadigol a mentrus
• ddinasyddion egwyddorol a gwybodus
• bobl ifanc iach a hyderus
Credwn o fuddsoddi a datblygu'r dibenion hyn y gallwn gyfrannu at greu'r person cyflawn all ddatblygu yn aelod aeddfed a chynhyrchiol o’i gymdeithas leol a’i wlad
• Mae datblygu ymwybyddiaeth a balchder ein dysgwyr o’u CYNEFIN a Stori Cymru yn greiddiol i’n darpariaeth ac yn allwedd i ehangu gorwelion ein dysgwyr yn eu gwerthfawrogiad o draddodiadau, diwylliannau ac ieithoedd byd eang
• Rhennir ein cwricwlwm yn 6 Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh) sef:-
• Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ( i gynnwys Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Sbaeneg)
• Y Dyniaethau ( i gynnwys Hanes, Daearyddiaeth, Addysg Grefyddol)
• Gwyddoniaeth a Thechnoleg ( i gynnwys Gwyddoniaeth, Cyfrifiadureg a Dylunio a Thechnoleg)
• Y Celfyddydau Mynegiannol ( i gynnwys Cerddoriaeth, Drama, Celf)
• Mathemateg a Rhifedd
• Iechyd a Lles
•
Bydd ein Cwricwlwm hefyd yn rhoi blaenoriaeth i elfennau statudol eraill yn cynnwys
• Cydberthnasau ac Addysg Rhyw
• Hawliau Dynol a Hawliau Plant
• Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
• Gyrfau a Phrofiad Byd Gwaith
• Dealltwriaeth o bwysigrwydd ein Cynefin
Anelwn at hyrwyddo gallu ein dysgwyr i weithio’n annibynnol yn ogystal â chydweithio mewn tîm boed hynny yn barau neu grwpiau
Hyrwyddwn agweddau cadarnhaol ym mhob unigolyn fel y gall addasu’n hyblyg i syniadau a sefyllfaoedd newydd a hynny’n seiliedig ar yr egwyddor barch - boed hynny yn hunan-barch, parch at oedolion, parch at gyfoedion a pharch at gymuned a’r byd ehangach.
• Rhoddir sylw ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad i ddatblygu’r Sgiliau Trawsgwricwlaidd sef:-
• Llythrennedd
• Rhifedd •
• Cymhwysedd Digidol
• Rhan annatod o Gwricwlwm i Gymru yw rhoi sylw dyledus i ddatblygu’r Sgiliau Cyfannol yn ein dysgwr sef:-
• Creadigrwydd
• Datrys Problemau
• Meddwl yn feirniadol
• Metawybyddiaeth
•
9
   “Enw da- canlyniadau ardderchog – da iawn chi!”
 

























































   10   11   12   13   14