Page 36 - Gwyr/Bryntawe Sixth Prospectus
P. 36

  IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL, A GOFAL PLANT
Pam astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol?
Mae’r pwnc yn darparu cyrsiau astudio cydlynol, boddhaus a gwerthfawr sy’n cynnig sylfaen addas ar gyfer astudio iechyd a gofal cymdeithasol drwy amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch, neu i gyflogaeth. Gallwch hefyd symud ymlaen i gymwysterau eraill o fewn y gyfres iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant. Byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o sut mae darpariaeth gwasanaethau yng Nghymru yn cefnogi datblygiad a llesiant unigolion i’w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus, nawr ac yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae’r cyrsiau yn cynnwys materion cyfoes mewn perthynas â darparu system iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant foesegol a chynaliadwy yng Nghymru, a bydd yn eich galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â chyfleoedd dysgu pellach neu wneud dewisiadau gyrfaol cysylltiedig. Drwy astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant, byddwch yn gallu dangos eich bod:
• yn deall y materion moesegol, cymdeithasol a gwleidyddol sy’n effeithio ar y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant
• yn ymwybodol o’r egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n sail i iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant
• yn deall y dulliau plentyn-ganolog neu berson-ganolog o ofalu
• yn gallu dehongli a gwerthuso damcaniaethau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, a myfyrio ar sut maen
nhw’n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau
• yn gallu nodi’r ffactorau cymdeithasegol, seicolegol a biolegol sy’n cyfrannu at iechyd da, ac esbonio rôl llywodraeth a
gweithwyr proffesiynol wrth hyrwyddo a chynnal iechyd da
• yn gallu defnyddio sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel y bo’n briodol o fewn eich astudiaethau.
Cynigir dau wahanol gwrs. Mae’r ddau wedi eu nodi isod. Gellir astudio un neu’r llall neu’r ddau gyda’i gilydd.
  UG/Uwch Iechyd a Gofal cymdeithasol a gofal plant
 Uned
Asesu
1: Hybu Iechyd a llesiant
50% o’r cymhwyster UG 20% o’r cymhwyster Safon Uwch
Arholiad Ysgrifenedig: 2 awr.
80 marc .
Bydd arholiad ysgrifenedig yn yr haf pan fyddwch chi ym mlwyddyn 12.
2: Cefnogi iechyd a llesiant a gwydnwch yng Nghymru
50% o’r cymhwyster UG 20% o’r cymhwyster Uwch
Asesiad di-arholiad: 30 awr
100 marc. Bydd angen i chi gwblhau tasg asesiad di- arholiad (NEA) ar sut mae iechyd, llesiant a gwydnwch unigolion yng Nghymru yn cael ei cefnogi drwy ofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.
5: Safbwyntiau damcaniaethol ynghylch ymddygiad oedolion
30% o’r cymhwyster Safon Uwch (llwybr iechyd a gofal cymdeithasol oedolion)
Arholiad Ysgrifenedig: 2 awr 30 munud 100 marc. Bydd arholiad ysgrifenedig yn yr haf pan fyddwch ym mlwyddyn 13. Mae’r arholiad mewn dwy adran. Bydd adran A yn ymwneud â deunydd sy’n cael ei ryddhau ymlaen llaw.
6: Cefnogi oedolion i gynnal iechyd,llesiant a gwydnwch
30% o’r cymhwyster Safon Uwch (llwybr iechyd a gofal cymdeithasol oedolion)
Asesiad di-arholiad: 40 awr
100 marc. Bydd angen i chi gwblhau tasg asesiad di-arholiad (NEA) lle byddwch chi’n cynhyrchu adnodd gwybodaeth i rywun sy’n cynllunio ar gyfer gyrfa yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol oedolion yn y dyfodol.
  Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a chyd destunau
 Uned
Asesu
1: Egwyddorion gofal ac ymarfer diogel o fewn gofal peson ganolig sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. 120 awr
Asesiad di- arholiad. 100 marc.
Bydd angen i chi gwblhau dau asesiad di-arholiad dan amodau rheoledig. Bydd hyn yn cynnwys ysgrifennu adroddiad a llunio pecyn gwybodaeth. Byddan nhw’n cael eu marcio gan eich athro a’u cymedroli gan CBAC.
2 : Ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion ar bob cam o’r rhychwant oesasutmaehynyn effeithioar ganlyniadau ac anghenion gofal a chymorth. 120 awr
Asesiad allanol. 100 marc.
Bydd arholiad ysgrifenedig ym mis Ionawr a mis Mai/Mehefin bob blwyddyn. Mae gennych chi dau gyfle i sefyll yr asesiad hwn, os oes angen a bydwch chi’n derbyn y marc gorau.
3 : Hybu hawliau unigolyn ar bob cam o’r rhychwant oes. 120 awr
Asesiad di- arholiad. 80 marc.
Bydd angen i chi gwblhau un asesiad di-arholiad dan amodau rheoledig. Gall fod yn seiliedig ar grŵp o unigolion o’ch dewis chi a rhaid i chi gynhyrchu tystiolaeth, naill ai fel podleidiad, cyflwyniad neu fideo. Bydd yn cael ei marcio gan eich athro a’i chymedroli gan CBAC.
5 : Cefnogi unigolion sydd mewn perygl i gyflawni’r canlyniadau maen nhw’n dymuno eu cael. 180 awr
Asesiad di- arholiad.
I’w gadarnhau
                                 33




















































   34   35   36   37   38