Page 4 - Gwyr/Bryntawe Sixth Prospectus
P. 4

 CROESO
 Mae’n bleser gennym gyflwyno Prosbectws Chweched Dosbarth Partneriaeth Gŵyr | Bryn Tawe i chi.
Rydym yn eich annog i’w ddarllen yn drwyadl wrth i chi ystyried eich opsiynau am y ddwy flynedd nesaf.
Rydym mor ymwybodol o’n pwysigrwydd fel ysgolion 11 -18 lle gall dysgwyr ddychwelyd i’r Chweched dosbarth gan wybod bod y gefnogaeth fugeiliol sydd wedi eu cynnal hyd yn hyn, yn parhau i’w cefnogi am y ddwy flynedd nesaf.
Wrth i ddysgwyr dychwelyd i’r Chweched byddwn yn parhau i sicrhau eu bod yn cyflawni eu potensial, yn parhau i fynu’r safonau uchaf wrth adeiladu ar y berthynas ddatblygwyd dros y blynyddoedd. Mae prosesau grymus yr ysgolion yn sicrhau y bydd yr ysgol yn cysylltu a rhieni os na fydd gwaith yn cael ei gyflawni. Byddwn yn sicrhau nad yw unrhyw fyfyrwyr yn mynd drwy’r rhwyd. Dyna yw ein cryfder.
Mae llwyddiant diweddar myfyrwyr y Bartneriaeth yn ennill llefydd yn y prifysgolion gorau yn cynnwys Rhydygrawnt yn adlewyrchiad o’r safonau academaidd uchaf sy’n bodoli ar draws y ddwy ysgol.Llwyddodd pob plentyn i symud ymlaen i Brifysgol neu i Brentisiaeth neu gyflogaeth dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r Bartneriaeth yn fodd i chi fanteisio ar fwy o ddewis o gyrsiau ac elwa o amrywiaeth helaeth o adnoddau a lefel uchel o arbenigedd. Ceir hefyd gyfle cyffrous i chi ddatblygu ymhellach o fewn cymhwyster gwerthfawr y Fagloriaeth Gymreig.
Yn ogystal â rhoi’r cyfle i gamu ymlaen at goleg, prifysgol neu at swydd, bydd Partneriaeth Gŵyr | Bryn Tawe yn rhoi’r cyfle unigryw i chi gymdeithasu gyda ffrindiau, hen a newydd, ac i fanteisio ar gyfoeth o weithgareddau y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Ond yn fwy na hynny, cewch gyfle i barhau gyda’ch astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ac i elwa wrth gyfrannu at gymuned ddwyieithog Dinas a Sir Abertawe a thu hwnt.
Gobeithiwn y byddwch yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd fydd ar gael ac i fod yn rhan o lwyddiant Partneriaeth Chweched Dosbarth Gŵyr | Bryn Tawe.
Mr Jeffrey Connick
Pennaeth/ Headteacher Ysgol Gyfun Gŵyr
                               1























































































   2   3   4   5   6